Cwricwlwm Newydd i Gymru / New Curriculum for Wales

Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy’n newid.

Crynodeb Cwricwlwm Newydd i Gymru / Schools curriculum summary

Crynodeb Cwricwlwm YGGP Curriculum summary

Datganiad Cwricwlwm / Curriculum Statement

Datganiad Cwricwlwm – Curriculum Statement YGGP 2023

Beth sy’n newid gydag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh): gwybodaeth ar gyfer ysgolion, lleoliadau nas cynhelir a ariennir, rhieni a gofalwyr /

relationship-and-sexuality-education-rse-en relationship-and-sexuality-education-rse-cy

Cwricwlwm Ysgol Gymraeg Pontardawe

Mae pedwar diben wrth wraidd cwricwlwm Ysgol Gymraeg Pontardawe, sy’n rhoi’r cyfle i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu i fod:

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;

  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;

  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd;

  • yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Gwerthoedd ein Cwricwlwm 

Rydym am i bob plentyn:

*gosod safonau uchel iddyn nhw eu hunain, yn chwilio am heriau a’u mwynhau ac sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
*cysylltu ac yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau,
meddwl yn greadigol a bod yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd
a gwaith
*wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd yn awr ac yn y gorffennol ac sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd
*gwybod sut i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen i gadw’n ddiogel ac iach ac sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Trwy ddefnyddio dulliau dysgu sydd wedi selio ar themau, mae strwythur ein cwricwlwm yn cynnwys chwe Maes Dysgu a Phrofiad.  Mae pob un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad yn cyfrannu mewn ffordd bendant a phenodol at ddatblygu pedwar diben y cwricwlwm. Gyda’i gilydd, maent yn diffinio ehagder ein cwricwlwm.  Mae’r profiadau addysgiadol i ni’n cynnig yn rhan annatod o’n cwricwlwm, sy’n ehangu gorwelion ein plant, yn symbylu eu dychymyg ac yn hybu mwynhad wrth ddysgu.

Y chwe maes dysgu a phrofiad yw:

  • Iaith, llythrennedd a chyfathrebu:-

Mae ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn ymwneud â meithrin gwybodaeth, sgiliau a rhinweddau mewn llafaredd, darllen, ysgrifennu a llenyddiaeth o fewn ac ar draws ieithoedd. Maent hefyd yn meithrin dealltwriaeth a hunaniaeth ddiwylliannol dysgwyr, eu hymdeimlad o hunan, a’u lle a’u llais mewn cymdeithas a all gyfrannu’n sylweddol at economi a bywyd diwylliannol ffyniannus i Gymru.

  • Mathemateg a rhifedd

Mae MDPh Mathemateg a Rhifedd yn hyrwyddo Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes drwy wneud y canlynol:

  • Datblygu agwedd gadarnhaol tuag at y pwnc.
  • Sefydlu diddordeb gydol oes mewn mathemateg.
  • Annog dysgwyr i fod yn annibynnol, yn chwilfrydig, yn agored eu meddwl, yn barod i dderbyn camgymeriadau a dysgu ohonynt mewn ffordd bwrpasol, fathemategol.
  • Datblygu metawybyddiaeth er mwyn i ddysgwyr wybod pa gamau i’w cymryd er mwyn gwella perfformiad.

Mae MDPh Mathemateg a Rhifedd yn hyrwyddo Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith drwy wneud y canlynol:

  • Annog dysgwyr i fod yn greadigol drwy gymryd risgiau wrth ystyried ffyrdd gwahanol o fynd i’r afael â phroblemau mathemategol a rhifyddol.
  • Datblygu gallu dysgwyr i ddadansoddi sefyllfaoedd mathemategol a llunio dadleuon rhesymegol mewn ymateb i hynny

Mae MDPh Mathemateg a Rhifedd yn hyrwyddo Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd drwy wneud y canlynol:

  • Creu cyfleoedd i gael trafodaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gwneud penderfyniadau gwybodus
  • Ei gwneud yn bosibl dadansoddi data yn feirniadol er mwyn ffurfio barn wybodus ar faterion cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol.
  • Ymsefydlu dealltwriaeth dysgwyr o gyllid personol, lleol, cenedlaethol a rhyngwladol

Mae MDPh Mathemateg a Rhifedd yn hyrwyddo Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas drwy wneud y canlynol:

  • Annog dysgwyr i ddefnyddio eu sgiliau rhifedd ar draws y cwricwlwm i wneud dewisiadau effeithiol er mwyn sicrhau iechyd a lles ar hyd eu hoes

Sicrhau eu bod yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i reoli cyllid personol ac i gyllidebu nawr ac yn y dyfodol; gan ddehongli gwybodaeth a data er mwyn asesu risg.

  • Gwyddoniaeth a thechnoleg (yn cynnwys cyfrifiadureg)

Drwy ddeall ‘yr hyn sy’n bwysig’ am wyddoniaeth a thechnoleg, bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth gadarn o’r byd ac yn dod yn hyderus, yn alluog ac yn greadigol.

  • Celfyddydau mynegiannol

Drwy’r Celfyddydau Mynegiannol, gall ysgolion ac athrawon annog plant a phobl ifanc i ddatblygu sut mae nhw’n gwerthfawrogi gwaith creadigol. Gallant hefyd annog datblygiad eu talent creadigol a’u sgiliau artistig a pherfformio. Mae’r Celfyddydau Mynegiannol yn rhoi cyfle i archwilio’r meddwl, mireinio a mynegi syniadau a defnyddio’r meddwl, y dychymyg a’r synhwyrau’n greadigol. Maent hefyd yn hyrwyddo ymchwilio i faterion sy’n ymwneud â hunaniaeth bersonol a diwylliannol. Er mwyn ymgysylltu â’r Celfyddydau Mynegiannol, mae angen ymroddiad, dyfalbarhad a manwl gywirdeb, galluoedd sy’n fuddiol ar gyfer dysgu drwyddi draw.

  • Iechyd a lles

Mae iechyd a lles yn ymwneud ag agweddau corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol ar ein bywydau.

Mae Iechyd a Lles yn allweddol i’n galluogi ni i ddod yn ddysgwyr llwyddiannus/ yn allweddol er mwyn i ni allu dysgu’n llwyddiannus. Bydd dysgwyr yn dod i wybod a deall sut mae eu cyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol a ffisegol, eu meddwl a’u cyflwr corfforol yn effeithio ar eu hiechyd, eu lles a’u parodrwydd i ddysgu drwy gydol eu hoes. Byddant yn ymgysylltu’n feirniadol ag amrywiaeth o wybodaeth i’w helpu i wneud penderfyniadau a datblygu eu gwerthoedd a’u hunaniaethau.  Mae datblygu sgiliau cymdeithasol a sgiliau gweithio mewn tîm yn eu helpu i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog ac yn eu paratoi ar gyfer y gweithle.

  • Dyniaethau (gan gynnwys Addysg Grefyddol)

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yn astudio profiad pobl yn y gorffennol a’r presennol yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac yn y byd ehangach. Mae’n cynnwys ffactorau a chysyniadau hanesyddol, daearyddol, crefyddol ac anghrefyddol, gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol.

A new curriculum for Wales

This is an exciting time for the young people of Wales. A new Curriculum for Wales is coming that will enthuse learners from 3 to 16, giving them the foundations they need to succeed in a changing world.

https://youtu.be/9U0fsT0gH7U

What’s changing with Relationships and Sexuality Education (RSE): information for schools, settings, parents and carers

relationship-and-sexuality-education-rse-en

Ysgol Gymraeg Pontardawe’s Curriculum

There are four purposes at the heart of the curriculum at Ysgol Gymraeg Pontardawe, that support the children to be:-

  • ambitious, capable learners ready to learn throughout their lives;

  • enterprising, creative contributors, ready to play a full part in life and work;

  • ethical, informed citizens of Wales and the world;

  • healthy, confident individuals, ready to lead fulfilling lives as valued members of society.

Our Curricular Values

Each child will: –
* set high standards for themselves and seek out and enjoy challenges and are ready to learn throughout their lives
* applies and applies their knowledge and skills to generate ideas, think creatively and are ready to play a full part in life and work
* knowledgeable about their culture, community, society and world now and in the past and ready to be citizens of Wales and the world
* know how to find the information and support needed to stay safe and healthy and ready to lead fulfilling lives as valued members of society

By using a teaching and learning method which is based on themes, the structure of our curriculum contains six Areas of Learning and Experience.  Each one of these Areas of Learning and Experience make distinct and strong contributions to developing the four purposes of the curriculum. Together, they define the breadth of the curriculum.   The wealth of  educational experiences form an integral part of the curriculum, to broaden the children’s horizans, stimulate their imagination and promote enjoyment in learning.

The six Areas of Learning and Experience are:-

  • Expressive arts;

Through the Expressive Arts we can encourage children and young people to develop their creative appreciation and talent and their artistic and performance skills. The Expressive Arts provide opportunities to explore thinking, refine, and communicate ideas, engaging thinking, imagination and senses creatively. They also promote exploration of issues of personal and cultural identity. Engagement with the expressive arts requires application, perseverance and close attention to detail, capacities that have benefits across learning more widely.

  • Health and well-being;

Health and well-being is about the physical, psychological, emotional and social aspects of our lives.

Health and Well-being is the key enabler of successful learning. Learners will gain knowledge and understanding about how their social, cultural and physical contexts, mind and physical state affect their health, well-being and readiness to learn throughout their lives. They will engage critically with a range of information to support their decision making and their developing values and identities.  Developing social and team working skills helps them to become ambitious, capable learners and prepares them for the workplace.

  • Humanities (including RE which should remain compulsory to age 16);

Humanities is the study of the human experience in the past and present in Wales, in the United Kingdom and in the wider world. It includes historical, geographical, religious and non-religious, political, economic and societal factors and concepts.

  • Languages, literacy and communication (including Welsh, which should remain compulsory to age 16, and modern foreign languages);

Languages, literacy and communication are about developing knowledge, skills and dispositions in oracy, reading, writing and literature within and across languages. They also develop learners’ cultural understanding and identity, their sense of self, and their place and voice in society which can contribute significantly to a thriving economy and cultural life for Wales

  • Mathematics and numeracy;

Mathematics and Numeracy AoLE promotes Ambitious, capable learners, ready to learn throughout their lives by:

  • Developing a positive attitude towards the subject.
  • Establishing a lifelong interest in mathematics.
  • Encouraging learners to be independent, curious, open-minded, willing to accept mistakes and learn from them in a mathematically purposeful way.
  • Developing metacognition so that learners know which steps to take to improve performance

Mathematics and Numeracy AoLE promotes Enterprising, creative contributors, ready to play a full part in life and work by:

  • Encouraging learners to be creative by taking risks when considering different ways of tackling mathematical and numerical problems.
  • Instilling competency in learners to analyse mathematical situations and construct logical arguments in response

Mathematics and Numeracy AoLE promotes Ethical, informed citizens of Wales and the world by:

  • Creating opportunities to have evidence based discussions and make informed decisions
  • Enabling the critical analysis of data to develop informed views on social, political, economic and environmental matters.
  • Embedding learners’ understanding of personal, local, national and international finance

Mathematics and Numeracy AoLE promotes Healthy, confident individuals, ready to lead fulfilling lives as valued members of society by:

  • Encouraging learners to use their numeracy skills across the curriculum to make effective choices to ensure lifelong health and well-being
  • Instilling the knowledge and skills to manage personal finance and budgeting now and in the future; interpreting information and data to assess risk
  • Science and technology (including computer science).

Through understanding ‘what matters’ about science and technology, learners will develop a secure understanding of the world and become confident, capable and creative.

https://hwb.gov.wales/api/storage/d3823918-b205-4c8c-b661-6b3720658e3c/cwricwlwm-newydd-yng-nghymru-canllaw-ar-gyfer-plant-pobl-ifanc-a-theuluoedd.pdf

https://hwb.gov.wales/api/storage/44b74558-5d89-4a5b-bf54-32bd6dcad1c0/a-new-curriculum-in-wales-a-guide-for-children-young-people-and-families.pdf