Croeso / Welcome


Mae’n newyddion gwych bod eich plentyn yn dechrau yn ein hysgol fendigedig! Mae tua 358 o ddisgyblion yn ein hysgol.

Croeso i Ysgol Gymraeg Pontardawe, rwyf wrth fy modd yn dweud wrthych am ein hymrwymiad i addysg ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg ein disgyblion. Mae gennym ni lawer i’w gynnig yma ym Mhontardawe a byddwn yn eich annog i ymweld â ni a chael gwir deimlad o’r ysgol. Rwy’n argyhoeddedig y byddwch chi’n ei garu cymaint â mi!

Mae gan yr ysgol hon enw da a thraddodiad o ragoriaeth ac rydym ni – y staff a’r llywodraethwyr presennol – yn ceisio parhau â’r traddodiad hwn. Ymfalchïwn yn safon uchel cyflawniad yr ysgol a’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol a gynigir.

Anelwn at ddatblygu’r plentyn cyflawn a chreu awyrgylch ddiogel, hapus a Chymreig, gan sicrhau bod ein diwylliant yn cael ei ddiogelu a’i ddatblygu ar gyfer y dyfodol. Mae gennym bolisi drws agored, a hyderwn y byddwch chi, fel rhieni a gwarcheidwaid, yn defnyddio’r cyfle hwn i ddod i’n hadnabod fel aelodau o staff; ac ymddiried ynom a dangos diddordeb byw yn addysg eich plentyn a’r gweithgareddau a ddarperir gan yr ysgol.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod pob aelod o deulu ein hysgol yn derbyn yr addysg orau mewn awyrgylch cartrefol a diogel. Anelwn at feithrin hunanddisgyblaeth, ymrwymiad, parch a balchder yn ein hiaith a’n hetifeddiaeth.

Rwyf hefyd yn falch iawn o’n staff eithriadol o brofiadol ac ymroddedig, sy’n sicrhau bod ein holl blant yn cael eu cefnogi’n dda i gyflawni eu gwir botensial, ac yn gweithio’n galed gyda theuluoedd i oresgyn unrhyw rwystrau i ddysgu.

Mae ein gofal bugeiliol yn eithriadol, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael ei gadw’n ddiogel ac yn cael ei gefnogi y tu fewn a thu allan i’r ysgol. Mae lles disgyblion yn bwysig iawn i ni.

Rhan bwysig iawn arall o’n hysgol yw chi, y rhiant! Mae perthynas cryf a phartneriaeth rhwng y cartref a’r ysgol yn hanfodol. Fel y gwelwch, wrth ddarllen y straeon rhieni a disgyblion o fewn y prosbectws hwn, rydych chi a’ch plentyn yn bwysig iawn i ni. Rydym yn hyrwyddo’r cysylltiad rhwng yr ysgol a’r rhiant ac yn gweithio’n galed iawn i’ch cynnwys chi ym mhob cam o amser eich plentyn yma…a chynyddu mwynhad eich plentyn o ddysgu.

It’s great news that your child is starting at our wonderful school. Currently we have approximately 358 pupils on roll.

As the Head teacher of Ysgol Gymraeg Pontardawe, I am thrilled to tell you about our commitment to Bilingual and Welsh medium education of our pupils. We’ve got lots to offer here at Pontardawe and I’d encourage you to visit us and get a real feel for the school. I’m convinced that you will love it as much as I do!

This school has a sound reputation and a tradition of excellence and we – the current staff and governors – seek to continue this tradition. We take pride in the school’s high standard of achievement and the wide range of extracurricular activities offered.

We aim to develop the whole child and to create a safe, happy and Welsh environment, ensuring that our culture is safeguarded and developed for future years. We have an open door policy, and we trust that you, as parents and guardians, will use this opportunity of getting to know us as staff members; and to
trust us and show an active interest in your child’s education and the activities provided by the school.

We are committed to ensuring that every member of our school family receives the best education in a homely and safe environment. We aim to nurture self-discipline, commitment, respect and pride in our language and our inheritance.

I am also very proud of our exceptionally experienced and dedicated staff, who ensure that all our children are well supported to achieve their true potential, and work hard with families to overcome any barriers to learning.

Our pastoral care is exceptional, ensuring all children are kept safe and are supported both inside and outside school. Pupil wellbeing is very important to us.

Another very important part of our school is you, the parent! A strong bond and partnership between the home and school is essential. As you will see, by reading the parent and pupil stories within this prospectus, you and your child are very important to us. We champion the link between school and parent and work very hard to involve you in every step of your child’s time here…and increase your child’s enjoyment of learning.


Cofion cynnes / Regards,

Mr M Evans