Clwb Brecwast / Breakfast Club
Mae Ysgol Gymraeg Pontardawe yn gallu darparu brecwast am ddim o dan y cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a ddarperir gan wasanaeth arlwyo’r awdurdod lleol. Mae clwb brecwast yn dechrau o 7.55 a.m. gyda mynediad tan 8:15am bob dydd. Am fanylion pellach, cysylltwch â swyddfa’r ysgol.
Ysgol Gymraeg Pontardawe is able to provide free breakfasts at under the scheme funded by the Welsh Government and is provided by the local authority’s catering service. Breakfast club starts from 7.55 a.m. with admissions until 8:15am every day. For further details, please contact the school office.
Clybiau Allgyrsiol / After School Clubs
Yn ogystal â chwaraeon a cherddoriaeth, mae amryw o glybiau allgyrsiol ar gael yn yr ysgol. Cynhelir y rhain naill ai yn ystod amser cinio neu ar ôl ysgol. Cynigir amrywiaeth o glybiau ar ôl ysgol bob blwyddyn, ac mae pob un yn cael ei redeg gan ein staff ein hunain.
Mae clybiau wedi cynnwys pêl-droed, rygbi, pêl-rwyd, côr a chodio. Mae rhai clybiau’n dymhorol a gall y clybiau a gynigir newid dros amser oherwydd newidiadau yn argaeledd staff. Hysbysir rhieni trwy Ap Schoop am y wybodaeth ddiweddaraf am yr ystod o glybiau ac argaeledd.
As well as sports and music, there are various extra-curricular clubs available within the school. These are held either during lunchtimes or after school. A variety of after school clubs are offered each year, all are run by our own staff.
Clubs have included football, rugby, netball, choir and coding. Some clubs are seasonal and the clubs that are offered can alter over time due to changes in staff availability. Parents are notified via Schoop App for up to date information on the range of clubs and availability.
Cylch Chwarae Pontardawe
I’r rhieni hynny a allai fod ei angen, mae gofal cofleidiol ychwanegol ar gael cyn ac ar ôl ysgol, (8.00 – 5:00pm o ddydd Llun i ddydd Iau) a ddarperir gan leoliad dechrau’n deg. Mae hyn wedi’i leoli yn ein darpariaeth bwrpasol ar gyfer plant 2 a 3 oed ar safle’r ysgol.
For those parents who may need it, additional wrap-around care is available before and after school, (8.00 – 5:00pm Monday – Thursday) provided by a flying start setting. This is based in our purpose built 2 and 3 yr old provision on the school site.
ebost/email: cylchchwarae@gmail.com
The Childcare Offer for Wales – NPT Council
