Gwersi Offerynnol / Instrumental Lessons

Mae athrawon offerynnol teithiol yn ymweld â’r ysgol yn wythnosol er mwyn darparu gwersi pres, drymiau, llinynnau a thelyn.  Gall plant gwneud cais am wersi offerynnol o Flwyddyn 2 ymlaen, a’r athrawon arbenigol sy’n gyfrifol am ddewis y plant i dderbyn gwersi yn ôl canllawiau penodedig.  Os na fydd plentyn yn cael ei ddewis, gall ef/hi ymgeisio eto’r flwyddyn ganlynol.
Fel rheol, gall disgyblion ddysgu chwarae un offeryn yn unig, serch hynny ystyrir ehangu’r ddarpariaeth i ddau offeryn, ond nid mwy,  ar gyfer disgyblion sy’n dalentog iawn yn gerddorol.  Gofynnir am gyfraniad o £4.00 yr wythnos neu daliad tymor cyn ddechrau’r gwersi.

Dyma’r amserlen am wersi offerynnol:
 
​Offeryn​ / Instrument ​Athrawes​ / Teacher ​ ​Diwrnod / Day
Drwm / Drums Mr Lyn Rees Dydd Llun / Monday
Telyn / Harp Miss Katie Bayliss Dydd Mawrth / Tuesday
Llinynnau / Strings  Mrs Sharon Williams Dydd Gwener / Friday
Pres / Brass  Mrs Jayne Thomas Dydd Llun / Monday