Gweledigaeth / Vision

                                                         Datganiad Cenhadaeth

Hyderwn fod pob aelod o’n teulu yn derbyn yr addysg orau mewn awyrgylch cartrefol a diogel. Anogir pob aelod i gyrraedd ei lawn botensial po bynnag eu gallu trwy cyfleoedd heriol, ymestynnol er mwyn bod yn ddysgwyr annibynnol ac yn hyderus mewn cymdeithas ddwyieithiog. Ein nod yw meithrin hunan ddisgyblaeth, parch ac ymroddiad tuag at ein hiaith a’n hetifeddiaeth.

Nodau ac Amcanion

Ein nod yw anelu at sicrhau bod:

*Pob disgybl yn cael cyfle i gyrraedd ei lawn botensial, yn gymdeithasol, yn gorfforol, yn ysbrydol a moesol.

*Awyrgylch hapus, cartrefol a diogel yn bodoli a bod pob plentyn yn cael ei annog i chwarae rôl flaenllaw a gweithredol ym mywyd yr ysgol.

*Y disgybl yn ganolog i’r broses o ddysgu a bod cyfaniad pob unigolyn yn cael ei barchu.

*Pawb yn magu balchder yn yr iaith Gymraeg, ein diwylliant a’n cenedl.

*Pwyslais ar ddatblygu sgiliau personol megis hunan hyder a hunan parch.

*Cysylltiadau cryf â’r gymuned leol, a dechrau paratoi plant i fod yn oedolion cyfrifol yn eu cymunedau a datblygu’n ddinasyddion byd eang.

Gwerthoedd

Ein gwerthoedd sy’n ein harwain yn ein bywyd o ddydd i ddydd yn yr ysgol.

Credwn mewn:

*gonestrwydd, cwrteisi a pharch tuag at eraill

*disgwyliadau uchel gan bawb

*cyfle cyfartal i bawb

*balchder yn ein hiaith a’n diwylliant

*hunan ddisgyblaeth

*dyfalbarhad ac ymroddiad i’n gwaith

Ein nod yw rhoi cyfleoedd i blant lwyddo a chydweithio gyda’n gilydd wrth ddatblygu pob dawn ar daith drwy’r iaith.

Mission Statement

We are committed to ensuring that every member of our family receives the best education in a homely and safe environment. Every member of the family is encouraged to reach their full potential whatever their ability through providing challenging and extended opportunities in order that he or she can become an independent learner in a bilingual society. Our aim is to nurture self-discipline, commitment, respect and pride in our language and our inheritance.

 

Aims and Objectives

Our aim is to ensure that:

  • All pupils have the opportunity to develop to his or her full potential academically, socially, physically, spiritually and morally.
  • A happy, warm and safe environment exists and to encourage every child to play an active and prominent role in school life.
  • The pupil is central to the learning process and each individual’s contribution is respected.
  • Everyone develops a sense of pride in the Welsh language, culture and our nation
  • An emphasis is placed on personal skills such as self-confidence, self-expression, self-respect, respect towards others and leadership and problem solving skills throughout their time in school.
  • We foster close links with the local community and begin preparing children to become responsible adults in their community and become global citizens

 

Values

Our values lead us in our day-to-day life at school.

We believe in:

  • Honesty, courtesy and respect for others.
  • high expectations by everyone.
  • equal opportunities for all.
  • Pride in our language and culture.
  • self-discipline,
  • perseverance and commitment to our work

Adolygwyd Gorffennaf 2023 / Revised July 2023